Rydym yn falch iawn o gael arddangos gwaith y ffotograffydd proffesiynol, Iolo Penri yn ein bar celfyddydau. Mae’r sioe “Cymeriadau Caernarfon” yn cael ei lansio ddydd Sadwrn 10 Chwefror ac yn para tan benwythnos y Pasg.
Am yr artist
Byth ers iddo ennill ei gamera cyntaf ar dombola mewn ffair bentref yn Llanbedrog, mae Iolo Penri wedi gwirioni â ffotograffiaeth.
Gan iddo gael ei fagu yn Llandbedrog roedd gan Iolo fynediad i rai o dirweddau mwyaf dramatig Cymru. Roedd mynyddoedd mawreddog Eryri ac arfordir Pen Llŷn i gyd yn ymddangos yn ei ffotograffau cynnar. Ond symud i Gaernarfon ac ymuno â’r diwydiant teledu oedd dechrau ei yrfa ffotograffiaeth broffesiynol. Yn y 1980au a’r 90au roedd Caernarfon yn ganolfan lewyrchus i gwmnïau cynhyrchu ffilm, ac mae yna’n dal gymuned ffilm a theledu weithgar yn y dref.
Gyrfa broffesiynol…
Yn ogystal ag actio, bu Iolo’n gweithio i Barcud a rhaglen ‘Uned 5’ fel ffotograffydd y wasg. Yn y swydd hon roedd yn cael ei anfon i Wythnos Ffasiwn Llundain, Silverstone a digwyddiadau mawr lle daeth ar draws enwogion rhyngwladol fel Cameron Diaz, Alex Jones, Keith Lemon ac ati. Dros y blynyddoedd, mae Iolo wedi teithio’r byd i weithio gan ymweld ag Efrog Newydd, De Affrica a Chiwba. Disgrifia Iolo y rhyddid a roddwyd iddo i ddal eiliadau gyda phobl ac i ddogfennu’r rhai na fyddai fel arfer wedi cael unrhyw sylw.
Mynd yn unigol…
Yn 2009, penderfynodd Iolo ddilyn gyrfa llawrydd ac mae’n gweithio’n rheolaidd i’r BBC, S4C, y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Prifysgol Bangor a llawer o gylchgronau adnabyddus.
Dal cymeriadau Caernarfon…
Dros y blynyddoedd, mae Iolo wedi bod yn tynnu lluniau cymeriadau difyr Caernarfon yn ei amser hamdden. Teimla fod bod yn lleol yn ei gwneud yn haws iddo feithrin perthynas â phobl â’u dal ar ffilm. Yn ei ffotograffau mae Iolo’n chwilio am y straeon yn wynebau a gweithredoedd y bobl y mae’n eu portreadu. Mae ganddo’r ddawn i ddod â’r hanesion unigol hynny i’r amlwg. Ac mae yma bobl o bob oed – o bobl ifanc yn eu harddegau ar ôl helynt yn y parc i bensiynwyr yn cofleidio anifail anwes.
Yng ngeiriau Iolo: “Rydw i eisiau i bobl edrych ar y delweddau a theimlo’r hyn sy’n cael ei bortreadu.”
Mae’n bleser gennym lwyfannu sioe ffotograffiaeth “Cymeriadau Caernarfon” Iolo ym mar celf Y Segontiwm o ddydd Sadwrn 10 Chwefror hyd at y Pasg.
